Teaching Resources > KS3 > Welsh > Branwen

Branwen

Nan Owen - Cerrigydrudion - Conwy
Mae’r adnodd hwn yn cyflwyno chwedl Branwen ar ffurf llyfr llafar, gweithgareddau rhyngweithiol a thaflenni gwaith. Mae dewis o ddwy fersiwn o’r chwedl - y fersiwn llawn a recordiwyd rhai blynyddoedd yn ôl gan Gyngor Sir Clwyd a fersiwn byrrach a recordiwyd o’r newydd yn ddiweddar. Gellir dewis edrych ar y lluniau a gwrando ar y stori yn ei chyfanrwydd neu ddewis dilyn y stori o dudalen i dudalen fel y mynnwch. Ceir botwm ar gyfer clywed neu ddiffodd y sain. Yn ychwanegol at y llyfr llafar mae’r chwedl ar gael ar ffurf PowerPoint a Word pe dymunech ei addasu.

Mae’r gweithgareddau rhyngweithiol yn cynnwys - trafod y cymeriadau, edrych ar eiriau anghyfarwydd, trefn stori, ansoddeiriau, berfau, tafodiaith, dyfyniadau, trafod teimladau, ysgrifennu llythyr, deialog, ymson ac astudio’r ddrudwen.