Adnoddau Addysgu > ADY (AAA) > Clicker > Dewi Sant - Clicker 5

Dewi Sant - Clicker 5

GCaD Cymru
Mae'r pecyn Clicker 5 yn cynnwys gweithgareddau am Dewi Sant megis 'dewis llun' a llyfr darllen rhyngweithiol syml.

Cynhwysir y gweithgareddau canlynol yn y pecyn:

  • Llyfr Dewi Sant 1 – dewis llun. Llyfr darllen syml sy’n cynnwys testun a blychau gwag ar gyfer lluniau cyfatebol.

  • Dewi Sant - brawddegau 1. Llunnir y brawddegau trwy glicio ar gelloedd geiriau unigol yn eu trefn. Gellir clywed pob gair trwy glicio de ar y gell. I’w ddefnyddio yn gyfochrog â Llyfr Dewi Sant 1.

  • Llyfr Dewi Sant 2 - dewis testun. Cyfres o gridiau, i’w defnyddio’n gyfochrog â Dewi Sant - brawddegau 2  isod, i greu llyfr llafar. Mae’n fersiwn ychydig yn fwy heriol na Llyfr Dewi Sant 1.

  • Dewi Sant – brawddegau 2. Adnodd i’w ddefnyddio’n gyfochrog â Llyfr Dewi Sant 2 – dewis testun uchod. Adeiladu brawddegau am Dewi Sant yw’r dasg, trwy glicio ar  y geiriau a welir ar-sgrîn, a thrwy hynny greu stori syml am Dewi Sant.

  • Geirfa Dewi Sant. Canolbwyntir yn bennaf yma ar ddatblygu sgiliau llafaredd, gan gynnig ymarfer estynedig ar ddwyn geiriau i gof ac ymateb yn briodol i gwestiynau. Cynhwysir gridiau ysgrifennu i gofnodi’r atebion er mwyn atgyfnerthu’r elfen lafar.

  • SwitchIt Maker 2. Llyfr Llafar yn cyflwyno stori Dewi Sant. Mae modd defnyddio switch gyda’r adnodd hwn.