#
Gwenno Dafydd
Heulwen Thomas
Ionawr 2008

 

Cenwch y Clychau i Dewi


Ar Fawrth y Cyntaf 2005 roedd Gwenno Dafydd yn cerdded ar Orymdaith Genedlaethol Gŵyl Dewi (GGGD) yng Nghaerdydd ac yn canu cloch drom tebyg i’r clychau a ddefnyddiwyd gan Dewi Sant.  Daeth syniad i’w phen bod angen cân arbennig ar gyfer yr achlysur ac aeth ati i ysgrifennu geiriau ‘Cenwch y Clychau i Dewi’.  Aeth a’r geiriau at ei phartner cerddorol Heulwen Thomas, ac fe ysgrifennodd Heulwen y dôn.

Perfformiwyd y gân gan Gwenno a Heulwen yng Ngorymdaith 2006 a’r flwyddyn honno cafodd ei pherfformio gan blant Ysgol Gymraeg Treganna, Caerdydd.  Cafodd y gân dderbyniad  gwresog gan athrawon a phlant nifer helaeth o ysgolion Caerdydd ac yn fuan wedyn cafodd ei mabwysiadu gan Bwyllgor Llywio yr Orymdaith fel cân swyddogol GGGD.

Recordiwyd y fersiwn yma o’r gân gan blant Ysgol Gymraeg Pen y Garth, Penarth, Bro Morgannwg gyda Heulwen Thomas yn cyfeilio.  Diolch i Mrs Iona Edwards a Mrs Alwena Harries am weithio mor galed yn hyfforddi’r plant.

Cenwch y Clychau i Dewi (agor yr adnodd hwn)

Traciau cefndir (i'w llwytho i lawr)

Geiriau'r gân

#
http://www.stdavidsday.org/

© Geiriau - Gwenno Dafydd
© Cerddoriaeth – Heulwen Thomas
Fersiwn Derfynol 22ain o Dachwedd 2007

© Cedwir pob hawl y recordiad gan Gwenno Dafydd a Heulwen Thomas.
Gellir llwytho’r traciau cefndir i lawr i’w defnyddio yn yr ysgol. 
Nid oes caniatâd i atgynhyrchu'r gwaith yma ar gyfer defnydd masnachol.